Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 5 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.01 - 15.36 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Peter Black AC (yn lle Kirsty Williams AC ar gyfer eitemau 1 i 5) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Fiona Davies, Llywodraeth Cymru Helen Whyley, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Yr Athro Siobhan McClelland, Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys Mick Giannasi, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
1.3 Nododd y Cadeirydd ddymuniadau gorau'r Pwyllgor i Kirsty Williams, a oedd yn absennol o'r cyfarfod oherwydd salwch. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dyddiad amgen er mwyn i Kirsty Williams roi tystiolaeth fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru).
2 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
3 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor am ei bwerau cyfarwyddo o dan Adran 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 6 ac 11 o'r cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i fyrddau iechyd lleol am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau sydd ganddynt ar waith i reoli'r gofal y maent yn ei gomisiynu gan y sector annibynnol a/neu gan weinyddiaethau eraill (e.e. GIG Lloegr), yn enwedig:
· a gaiff contractau safonol eu defnyddio ar gyfer trefniadau o'r fath;
· sut mae byrddau iechyd yn monitro cydymffurfiaeth â'r contractau/cytundebau ar gyfer darparu'r gofal a gomisiynwyd ganddynt.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Gymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru am wybodaeth ychwanegol ynghylch:
· ei sylw "it is important that should the Bill be extended that this will include all of the Independent Sector not just NHS funded care within the sector"; ac
· a yw'r diwydiant yn cadw at unrhyw gymarebau staffio ar hyn o bryd ac, os felly, pa gymarebau, i ba raddau y mae cydymffurfio yn cael ei fonitro a chan bwy, a beth yw'r cyfraddau cydymffurfio.
6 Blaenraglen waith y Pwyllgor.
6.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu rhagor o sesiynau tystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru), gan gynnwys sesiwn gyda Kirsty Williams, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mawrth 2015.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor ar ddull ar gyfer casglu tystiolaeth lafar mewn perthynas â gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
6.4 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith amlinellol o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2015, yn amodol ar drafod ymhellach cais y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ohirio sesiwn gwaith craffu cyffredinol ac ariannol yr haf tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
6.5 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith amlinellol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad, a chytuno i ohirio penderfyniad ynghylch y blaenoriaethau a nodwyd ganddynt yn flaenorol.
7 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1
7.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
7.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· copi o'r cytundeb dros dro gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer 2014-15;
· syniad bras o'r amserlenni ar gyfer y fframwaith comisiynu, ansawdd a darparu ac, unwaith y bydd yn barod, copi o'r fframwaith.
8 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2
8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
8.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· manylion am y cynlluniau peilot sydd ar waith ledled Cymru i wella gwasanaethau ambiwlans;
· nifer y galwadau brys Categori A a wnaed yn 2012 , 2013 a 2014, nifer y digwyddiadau y mae'r galwadau hyn yn ymwneud â nhw, nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad, a nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad o fewn wyth munud;
· y dyddiadau y cafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hymgynghori neu ei chynnwys yn y penderfyniad a wnaed i atal gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd; a
· chopi o gynllun gweithredu ar gyfer gwella Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
9 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3
9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
9.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· manylion ar gyfer y mis diwethaf (Chwefror 2015) am nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd pob adran damweiniau ac achosion brys yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac, os yw'n bosibl, yr orsaf ambiwlansys lle y mae pob un o'r ambiwlansys hynny wedi'u lleoli;
· manylion am nifer y cleifion sy'n profi oedi wrth gael eu trosglwyddo yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro;
· manylion am y camau gweithredu y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eu cymryd i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion, y gwelliannau y disgwylir eu cyflawni, a'r amserlenni cysylltiedig; a
· chopi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i brofiadau o ran gofal heb ei drefnu ym mhob bwrdd iechyd lleol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015.
10 Papurau i’w nodi:
10.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
10.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
10.2 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd gan ymgyrch y Coleg Nyrsio Brenhinol
10.2a Nododd y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth.
11 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / y Dirprwy Weinidog Iechyd.